Sylwi ar y Symptomau

EnglishCymraeg

Mae ein hymgyrch Sylwi ar y Symptomau yn deillio o gynnig ar ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a basiwyd gan aelodau SyM fis Mehefin 2021 gyda mwyafrif o 99.48%. Mae’r ymgyrch hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau cynnil canser yr ofari er mwyn helpu i sicrhau y caiff mwy o ferched diagnosis ar y cyfle cyntaf posibl.

Ym mis Ionawr cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd a Target Ovarian Cancer i godi ymwybyddiaeth ymhlith Aelodau o’r Senedd o symptomau canser yr ofari ac i drafod yr angen am ymgyrch ymwybyddiaeth symptomau genedlaethol.

Ymwelwch â See the Signs | National Federation of Women's Institutes (hpfwi.co.uk) i ddarganfod mwy am yr ymgyrch ac am adnoddau dwyieithog i’ch cefnogi i gymryd rhan.